
Elusen profedigaeth Gymreig yw Sandy Bear sy’n cefnogi plant a phobl ifanc, 0-25 oed, sydd wedi cael profedigaeth neu sy’n wynebu profedigaeth.
Rydym yn gweithio ledled Cymru yn cynnig cymorth i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y canlyniadau gorau ar ôl i rywun y maent yn ei garu farw.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr yn eich ardal i helpu gyda:
- Cefnogi ein Tîm Darparu Gwasanaeth gydag ymweliadau cartref
- Helpu mewn digwyddiadau cymunedol lleol a Chodi Arian
- Cynorthwyo ein Tîm Profedigaeth mewn Grwpiau Cefnogi Teuluoedd
Pam gwirfoddoli i Sandy Bear?
- 2 ddiwrnod o hyfforddiant pwrpasol ar gefnogi plant a phobl ifanc mewn profedigaeth
- Cefnogaeth reolaidd gan y Tîm
- Trwy gefnogi Sandy Bear, mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr gan alluogi’r elusen i weithio gyda llawer mwy o blant, pobl ifanc a theuluoedd pan fyddan nhw ein hangen ni fwyaf.
Diwrnodau Hyfforddi Gwirfoddolwyr i ddod
Nodyn: Gwiriwch ein Tudalen Gwirfoddolwyr am y Dyddiadau Hyfforddi diweddaraf gan ein bod yn aml yn diweddaru gyda sesiynau newydd!

| Hyfforddiant | Dyddiad | Lleoliad |
|---|---|---|
| Hyfforddiant Gwirfoddolwyr Caerdydd | 11eg A 12fed Awst | 26-28 Churchill Way, Cardiff CF10 2DY Apply |
| Hyfforddiant Gwirfoddolwyr Sir Benfro | 3ydd a 4ydd Medi | 115 Charles Street, Milford Haven, SA73 2HW Apply |




