Georgia Cooper

Ymarferydd Galaru – Sir Fynwy/Torfaen

Ymunais â thîm Sandy Bear ym mis Medi 2024. Rwyf wedi cefnogi llawer o blant a phobl ifanc mewn rolau a lleoliadau amrywiol ers tua 10 mlynedd; o gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol a meddygol cymhleth, i afiechydon difrifol a therfynol, yn ogystal â goroeswyr cam-drin domestig. Dechreuodd fy nghefndir mewn cefnogaeth profedigaeth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn 2021 ac mae’n rhywbeth rwyf wedi bod yn angerddol yn ei gylch byth ers hynny.

Symudais i Frynaman yn 2023 o Fournemouth gyda fy mhartner. Rwy’n gaeth i blanhigion tŷ ac mae gen i fwy o blanhigion nag yr hoffwn i gyfaddef! Rwyf wrth fy modd yn treulio amser gyda theulu a ffrindiau, yn ogystal â gwylio machludau ar y traeth yn Porthcawl. Rwy’n ddiolchgar iawn ac yn gyffrous i fod yn rhan o dîm Sandy Bear!

Georgia