Sadie James

Arweinydd Ardal – De-ddwyrain Cymru

Helo, fi yw Sadie!

Dechreuais fy nhaith gyda Sandy Bear yn 2023 fel gwirfoddolwraig, ac ni gymerodd hi’n hir i mi sylweddoli bod cefnogi plant a phobl ifanc drwy alar yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei ddilyn fel gyrfa. Yr hyn a ddechreuodd fel gwirfoddoli a dyfodd yn fuan i rôl amser llawn fel Ymarferydd Profedigaeth, lle cês i’r fraint o helpu i sefydlu a datblygu ein gwasanaeth ledled Abertawe ar gyflymder anhygoel.

Flwyddyn yn ddiweddarach, es i ymlaen i’r rôl o Arweinydd Ardal ar gyfer De Ddwyrain Cymru, sef cam cyffrous ymlaen a her rydw i wedi’i chofleidio’n llwyr. Mae’r rôl hon yn fy ngalluogi i helpu i siapio a datblygu gwasanaethau mewn ardaloedd newydd tra’n parhau i wneud y gwaith rydw i’n ei garu fwyaf: cefnogi teuluoedd drwy alar.

Yn ystod fy amser gyda Sandy Bear, rydw i wedi adeiladu perthnasoedd ystyrlon ac ymddiriedus gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Rydw i’n teimlo’n hynod o ffodus i wneud y gwaith hwn — mae’n fraint wirioneddol cael cefnogi pobl yn ystod rhai o’u cyfnodau anoddaf.

Cyn ymuno â Sandy Bear, bûm yn gweithio yn y GIG ac enillais radd BSc mewn Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol (achrededig gan y BPS) ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2022. Ar ôl graddio, cymerais flwyddyn o seibiant i deithio drwy Awstralia, De Ddwyrain Asia, a Chanolbarth America, gan brofi diwylliannau, bwyd a safbwyntiau newydd sydd dal gyda mi heddiw. Ychydig o bethau amdana i: rydw i’n hapusaf wrth y môr, yn enwedig os ydw i’n nofio ynddo gyda fy nghi, Buddy! Rydw i’n caru anifeiliaid, cerddoriaeth fyw, ac yn mwynhau treulio amser gwerthfawr gyda fy nheulu a ffrindiau.

Sadie