Gweithwyr Proffesiynol a Hyfforddiant

Ymarferydd Profedigaeth Sandy Bear

Gyda rolau gweithwyr proffesiynol a’r rhai sy’n cefnogi pobl mor eang, mae’n aml yn amhosibl cael eich hyfforddi a chael profiad helaeth mewn un maes penodol. Gall Sandy Bear gynnig cyngor, arweiniad a chyfeirio dros y ffôn ac e-bost pan fyddwch yn gweithio gyda plant, person ifanc mewn profedigaeth a/neu ei deulu.

Sut i gyfeirio at Sandy Bear?

Gallwch gyfeirio teuluoedd i’n gwasanaeth llawn drwy’r ffurflenni isod. Rhaid i hyn fod gyda chaniatâd y rhai sy’n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth.

Sut rydym yn cael ein hariannu?

Rydym yn cael ein hariannu trwy amrywiaeth o gomisiynau a grantiau statudol a gwirfoddol, mae gweddill yr arian yn dod trwy godi arian cymunedol a chefnogaeth enfawr ein codwyr arian lleol a chefnogwyr ledled y wlad.

Mewn ardaloedd yr ydym yn cael ein hariannu mae ein gwasanaeth llawn am ddim, yn yr ardaloedd nad ydym yn gweithredu’n llawn mae’r opsiwn i drafod opsiynau ariannu Unigol trwy gomisiynu lleol, cyllidebau gwasanaeth neu Bresgripsiynu Cymdeithasol. Rydym bob amser yn hapus i drafod opsiynau neu syniadau.

Hyfforddiant

Rydym yn gweithio’n rheolaidd gydag Addysg, Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gwasanaethau Brys Gallwn gynnig hyfforddiant 1/2 a diwrnod llawn ar gefnogi Plant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth yn ogystal â galar rhagweladwy lle mae person arbennig wedi cael diagnosis o salwch terfynol.

Mae ein hyfforddiant yn cynnig rhai dulliau damcaniaethol, ond ymarferol yn bennaf i wneud sgyrsiau am farwolaeth, a phrofedigaeth yn haws i’w trafod. Mae’r rhai sy’n mynychu yn gwneud sylwadau ar sut maent yn falch o cael sgiliau newydd sy’n eu helpu yn eu gwaith bob dydd.

Rydym wedi ein hachredu gyda Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Gall rhywfaint o’n hyfforddiant ddenu credydau DPP tuag at ddatblygiad parhaus ac ymarfer proffesiynol.

Cysylltwch i drafod anghenion hyfforddi eich tîm neu sefydliad.

Ffurflen Gyfeirio

CPD

Become a Volunteer


Play a crucial role in the delivery and development of Sandy Bear

If you think you have what it takes, and a little time spare to support us, then we’d love to hear from you.