Llysgenhadon

LilyRice

Mae gan Sandy Bear gefnogwyr anhygoel. Un o’n Llysgennad elusen ydy Lily Rice, yr Athletwr WCMX Elitaidd a’r Para-Nofiwr Rhyngwladol. Mae Lily yn berson ifanc sydd â chymhelliant ac sy’n angerddol am y chwaraeon y mae hi’n ymwneud â nhw ac awch heintus am oes. Rydym wrth ein bodd i gael Lily fel Llysgennad yn hyrwyddo ein hachos.

Mae y ferch sydd yn 19 blwydd oed o Faenorbŷr wedi dod o hyd i’w henw chwaraeon fel pencampwr cefn fflipio ym myd WCMX, sy’n addasu sgiliau sglefrfyrddio/marchogaeth BMX ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Yn fwy diweddar, yn 2022, aeth â medal nofio efydd adref yng Ngemau’r Gymanwlad a gynhaliwyd yn Mirmingham. Lily yw’r person cyntaf i sicrhau medal mewn nofio i Gymru!

Meddai Lily: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael cais i fod yn llysgennad i’r elusen! Mae Sandy Bear yn darparu cymorth hanfodol i blant a phobl ifanc sy’n profi profedigaeth ac maent yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar y rheini yn Sir Benfro a’r cymunedau cyfagos.”

Sandy crayon divider

Leah – Llysgennad Ieuenctid

Leah

Fy enw i yw Leah a dwi yn 14 oed. Rwy’n gyffrous i fod yn llysgennad ieuenctid i Sandy Bear gan eu bod wedi fy helpu yn ystod cyfnod anodd ar ôl colli aelod o’r teulu. Rydw i eisiau helpu a chefnogi eraill yn yr un ffordd, fel eu bod nhw’n teimlo nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.

Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau cymdeithasu gyda fy ffrindiau a gweld teulu, pobi, tynnu lluniau a dwi’n chwarae pêl-rwyd.

Yn yr ysgol, dwi’n astududio gwallt a harddwch, a drama, sef fy hoff bynciau.

Sandy crayon divider

Emily – Llysgennad Ieuenctid

Fy enw i yw Emily ac rwy’n 18 oed. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn llysgennad ieuenctid i Sandy Bear gan eu bod wedi fy helpu yn ystod cyfnod anodd pan oeddwn yn iau ac rwyf am helpu pobl ifanc eraill yr un oed â mi i fynd drwy’r un profiadau ag yr es i drwyddynt fel nad ydynt yn teimlo yn unig.

Rwy’n oedolyn ifanc angerddol gyda meddwl creadigol ac rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda’r ieuenctid a rhoi yn ôl i’r gymuned. Rwy’n astudio celfyddydau perfformio a chynhyrchu yn y coleg ac yn cychwyn ar daith newydd gyda’r brifysgol yn astudio BA Actio.

Yn fy amser hamdden rwyf wrth fy modd yn byw bywyd i’r eithaf a threulio amser gyda fy nhri brawd. Rwyf hefyd wrth fy modd yn treulio amser yn yr awyr agored ac rwy’n arweinydd yn fy ngrŵp sgowtiaid lleol.

Emily
Sandy crayon divider

Habeba – Llysgennad Ieuenctid

Habeba

Fy enw i yw Habeba ac rwy’n hanner Moroco a hanner Prydeinig ac ar hyn o bryd rwy’n byw yn Aberdaugleddau. Rwy’n 17 oed ac yn astudio lefelau A Ffrangeg, Sbaeneg, Saesneg a Chymdeithaseg yng Ngholeg Sir Benfro, yn gobeithio astudio ieithyddiaeth yn y brifysgol i ddod yn ymchwilydd neu therapydd lleferydd.

Yn fy amser sbâr, dwi wrth fy modd yn gwrando ar fy hoff fandiau, yn ysgrifennu a bod allan gyda fy ffrindiau. Rwyf hefyd yn mwynhau treulio amser gyda mam yn fawr, boed hynny’n mynd am dro neu’n gwylio’r teledu gyda’n gilydd. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn Llysgennad Ieuenctid i Sandy Bears, maen nhw wedi gwneud cymaint i mi, roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus a chefais fy nghlywed ym mhob sesiwn Rwyf am i bobl ifanc eraill deimlo y gallant fynd at yr elusen hon a chael yr un buddion ag y gwnes i; hyd yn oed os yw cymorth profedigaeth yn ymddangos yn frawychus (yn sicr fe wnaeth i mi pan ddechreuais!). Bonws ychwanegol oedd, yn ystod y sesiynau grŵp, gwnes i ffrindiau sy’n bwysig i mi hefyd ac rwy’n meddwl llawer amdanyn nhw.

Sandy crayon divider

Tomos – Llysgennad Ieuenctid

Fy enw i yw Tomos ac rwy’n 18 oed. Rwy’n Llysgennad Ieuenctid Sandy Bear oherwydd sawl rheswm. Roeddwn i’n byw yn India am 12 mlynedd a chollais fy mam yn India ac yna deuthum i’r wlad hon. Daeth hyn â newidiadau enfawr i mi, yr addysg, y diwylliant ac yn enwedig y tywydd (sy’n wahanol i’w gilydd)! . Roedd y rhain yn rhai o nifer o heriau a wynebais nad oeddent wedi helpu fy mhrofedigaeth o gwbl. Fodd bynnag, mae cael y gefnogaeth aruthrol gan Sandy Bear, sydd fel teulu i mi nawr, wedi fy ngalluogi i siarad am fy ngholled gydag unrhyw un ar unrhyw adeg.

Rwyf wedi dysgu nad yw profedigaeth yn eich gadael – mae’n tyfu o’n cwmpas a sut rydych chi’n caniatáu iddi dyfu a rheoli i fyny i chi. Rwy’n teimlo mai siarad am golled yw un o’r ffyrdd gorau o’i reoli ac mae Sandy Bear wedi dysgu hynny i mi mewn ffordd dda iawn. Fy mhrif nod fel Llysgennad Ieuenctid yw nid yn unig helpu unigolion mewn profedigaeth fel fi, ond hefyd darparu gwybodaeth i’r unigolion yn y gymuned am y gwaith y mae Sandy Bear yn ei wneud. Un o fy hobïau yw casglu stampiau. Rwy’n hoffi’r lliw a’r amrywiaeth y gallwch eu cael allan ohonynt gan eu bod yn wahanol o wlad i wlad. Rwy’n aelod o Gynulliad Ieuenctid Sir Benfro a Banc Ieuenctid Sir Benfro sy’n gwasanaethu buddiannau pobl ifanc Sir Benfro. Rwyf hefyd yn fyfyriwr lywodraethwr ar Fwrdd Corfforaeth Coleg Sir Benfro.

Tomos

Mwy o wybodaeth

Become a Volunteer


Play a crucial role in the delivery and development of Sandy Bear

If you think you have what it takes, and a little time spare to support us, then we’d love to hear from you.