Hannah Beer

Rheolwr Marchnata, Digwyddiadau a Gwirfoddolwyr

Ymunodd Hannah â thîm Sandy Bear ym mis Mai 2021 ar ôl dymuno dilyn gyrfa newydd gyda’r bwriad o barhau i gefnogi plant a phobl ifanc. Mae Hannah yn teimlo’n angerddol dros roi’r cyfle i blant a phobl ifanc fod y gorau y gallant fod drwy gydol eu hoes. Profodd Hannah brofedigaeth rhiant yn ifanc ac, er nad yw’n derbyn gwasanaeth Sandy Bear yn bersonol, mae’n cefnogi ac yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith a wneir gan yr elusen.

Ar ôl gwneud profiad gwaith o fewn lleoliadau addysgol yn ystod ei harholiadau Lefel A, aeth Hannah ymlaen i wneud gradd mewn Astudiaethau Addysg ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw. Ar ôl cwblhau ei gradd, cwblhaodd TAR Cynradd yn Swydd Gaerloyw. Yna symudodd yn ôl i Sir Benfro lle bu’n gweithio fel athrawes gyflenwi nes i’r pandemig Covid-19 daro. Gyda chariad at ddysgu, mae Hannah yn parhau i chwilio am ffyrdd o ddatblygu ei hun yn broffesiynol ac ar hyn o bryd mae wedi ymrestru ar gwrs nos Cymraeg.

Yn ei hamser hamdden, mae Hannah yn mwynhau mynychu dosbarthiadau ffitrwydd a cherdded. Mae ei diddordebau hefyd yn cynnwys seibiant gyda’i gŵr, Josh, yn ogystal â mynychu cyngherddau a gwyliau. Mae ganddi lawer o gariad at anifeiliaid ac mae’n rhannu ei chartref gyda dwy Cavapoo, Buddy a Barney, a dwy gath, Bangs a Bertie.

Hannah