Jenna Swenson

Ymarferydd Profedigaeth

Ymunodd Jenna â thîm Sandy Bear ym mis Gorffennaf 2022. Bu Jenna yn gweithio mewn lleoliadau addysg am dros 10 mlynedd mewn rolau amrywiol ac mae wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc ers dros 14 mlynedd. Cwblhaodd ei gradd, BSc Seicoleg mewn Addysg, ym Mhrifysgol Efrog ac yna aeth ymlaen i weithio fel swyddog Llesiant a Chynhwysiant i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Jenna’n teimlo bod lles a hapusrwydd plant yn hollbwysig ac mae’n teimlo’n freintiedig i allu cefnogi plant ymhellach yn Sandy Bear.

Magwyd Jenna yn Sir Benfro ac mae hi’n rhugl yn y Gymraeg. Ar ôl y brifysgol, symudodd yn ôl i Sir Benfro ac mae bellach yn byw yma gyda’i gŵr hyfryd, dwy ferch fach, ci (Max) a chath (Nala). Mae hi’n caru dim byd mwy ar y penwythnosau i goginio bwyd blasus i’w theulu a chwarae ar y traeth.

Jenna