Andrea Farmer

Trysorydd

Dechreuodd Andrea ei gyrfa gydag Alliance & Leicester, gan symud ymlaen o rifwr i gynghorydd morgeisi tra hefyd yn ennill cymwysterau CMAP proffesiynol. Ar ôl 26 mlynedd, ymunodd â John Francis Asiant Tai fel eu Hymgynghorydd Morgeisi a gweithiodd yn eu 6 Swyddfa yn Sir Benfro cyn ymddeol yn 2015.

Yn drasig, ym 1983 bu farw mab Andrea o farwolaeth yn y crud yn 10 wythnos oed. Gadawyd ei gwr, hi ei hun a’i merch ieuanc yn amddifad. Cefnogwyd y teulu gan eu teulu estynedig a rhwydwaith agos o ffrindiau a ddaeth ynghyd yn ystod yr amser ofnadwy hwn.

Bryd hynny yn Sir Benfro, nid oedd y gwasanaeth i gefnogi plant oedd wedi cael profedigaeth ar gael i’w merch. Mae Andrea yn frwd dros sicrhau bod y cymorth ar gael i deuluoedd eraill sy’n profi marwolaeth plentyn.

Ganed Andrea yn Sir Benfro ac mae’n briod ac mae ganddi ddau o blant sydd wedi tyfu i fyny.

Andrea