Isobel Hall

Is-Gadeirydd

Cyflogwyd Isobel o fewn y GIG am dros 40 mlynedd fel Nyrs, Bydwraig ac Ymwelydd Iechyd.

Cyn ymddeol yn 2017, bu’n Nyrs y Gyfarwyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Plant a oedd yn cwmpasu nyrsio arweiniol ar draws yr holl wasanaethau iechyd plant o fewn Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, yn rhychwantu gofal ysbyty a chymunedol i bob oed.

Yn ystod ei gyrfa broffesiynol, mae hi hefyd wedi gweithio’n wirfoddol o fewn Cymdeithas yr Ymarferwyr Cymunedol ar gyfer Ymwelwyr Iechyd fel cynrychiolydd lleol a hefyd wedi cynrychioli ei phroffesiwn ar lefelau strategol a chenedlaethol. O fewn ei bywyd personol, mae hi wedi gwirfoddoli fel Rhiant Lywodraethwr i Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod rhwng 1997 a 2004.

Mae Isobel yn weddw gyda thri o blant a dau o wyrion ac wyresau.

Isobel